Mae bron un plentyn ym mhob tri yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Trwy ein rhaglenni arloesol a'n gwaith ymgyrchu, rydyn ni'n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar blant i dyfu, datblygu a dysgu.
Ein Gwaith yng Nghymru
Mae Achub y Plant wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers y 1930au. Heddiw, rydyn ni'n dal i weithio i sicrhau bod pob plentyn yn gallu ffynnu.
Gweithio gyda theuluoedd, ysgolion a chymunedau
Er mwyn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, rydym yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru gan weithio gyda phartneriaid addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi cymunedau a darparu ystod o raglenni.
Ein Gwaith Ymgyrchu
Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod allweddol mewn datblygiad plentyn.
Ond ar hyn o bryd, mae gormod o blant yng Nghymru ar ei hôl hi cyn iddynt ddechrau’r ysgol hyd yn oed. A’r rhai sydd yn cael eu magu mewn tlodi sy’n cael eu heffeithio fwyaf.
Dyma pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, ac i fuddsoddi mewn gwell cefnogaeth i rieni a sicrhau y gall staff y blynyddoedd cynnar gynnig addsyg a gofal plant o safon fyd-eang.
Ein Hadroddiadau
- Dechrau'n Gryf: Cefnogi teuluoedd sy’n profi tlodi drwy gyfnod pontio’r blynyddoedd cynnar Gweler hefyd ein hadroddiadau Rhieni a Phlant.
- Hoe am Hwyl: Dangos y gwahaniaeth y gallwn ei wneud trwy helpu gydag argyfwng ariannol uniongyrchol mewn cartref teuluol a darparu cyfnod o gefnogaeth barhaus i deuluoedd o amgylch addysg gynnar eu plant.
- O Covid-19 i Gostau Byw: 18 mis o ddarparu grantiau blynyddoedd cynnar i deuluoedd yng Nghymru.
- Cymorth i blant a theuluoedd o Wcráin.
- Canrif yng Nghymru: Canrif o newid i blant Cymru.
Y Gymraeg a Ni
Canfod mwy
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch ni ar 029 20 396838.